- Home
- Adnoddau
- Rheoli Defaid
- Sut mae EID yn gweithio
Sut mae EID yn gweithio
Sut gall systemau adnabod EID eich helpu i wella perfformiad eich praidd
Cyflwyniad i ddefnyddio systemau adnabod EID ar eich fferm.
Mae gwybodaeth ar gael hefyd yn y llyfryn hwn, Cyflwyno Cofnodi EID – Canllaw ymarferol i ddechrau cofnodi EID ar gyfer eich diadell.
Mae systemau adnabod anifeiliaid yn electronig (EID) yn cynnig llawer o fuddion i unrhyw un sy’n ymwneud â thrin defaid, yn enwedig ar ffermydd lle y gall arferion rheoli gael eu gwella’n sylweddol trwy ddefnyddio systemau EID.
Sut mae EID yn gweithio.
Mae EID yn defnyddio microsglodyn, neu drawsatebwr electronig, sydd wedi’i osod mewn tag, bolws neu fewnblaniad i adnabod anifail fferm. Mae EID mewn anifeiliaid wedi’i seilio ar donnau radio amledd isel neu Adnabod Amledd Radio (RFID). Mae darllenydd yn anfon signal radio sy’n cael ei dderbyn gan y microsglodyn. Mae’r sglodyn yn anfon rhif adnabod unigryw’r anifail yn ôl. Yna, mae’r darllenydd yn trosglwyddo’r rhif unigryw i gyfrifiadur sy’n ei ddefnyddio i storio pa wybodaeth bynnag sydd ei hangen am yr anifail hwnnw.
Mae adnabod EID yn gofyn am fuddsoddiad cychwynnol mewn technoleg ar y fferm. Mewn sefyllfaoedd sylfaenol iawn, mae hyn yn golygu prynu offer a fydd yn darllen y tagiau EID, a bod â mynediad at gyfrifiadur sydd â meddalwedd rheoli fferm syml wedi’i gosod arno. Yna, bydd y feddalwedd hon yn rheoli’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu.
Mae cyfrifiaduron ar y rhan fwyaf o ffermydd erbyn hyn. Mae’r math o offer EID sydd ar gael yn amrywio o ddarllenwyr ffon syml iawn i ddarllenwyr llaw a chofnodwyr data, peiriannau pwyso electronig a systemau cytio awtomatig. Bydd yr offer a ddewiswch yn dibynnu ar eich sefyllfa ffermio eich hun a’r math o wybodaeth sydd ei hangen arnoch am y praidd - Gweler Hyfforddiant Rhan 2.
I gael y budd mwyaf, byddai system adnabod EID yn cael ei defnyddio ar y cyd â stoc sydd â gwerthoedd bridio amcangyfrifedig, fel y gellir asesu perfformiad pob anifail yn y praidd.
Mewn unrhyw braidd, gall EID helpu i gynyddu enillion trwy, er enghraifft, reoli a dethol ŵyn yn well ac yn fwy effeithlon. Gall buddsoddi mewn meddalwedd ac offer priodol gynorthwyo ffermwyr i ddewis ac asesu pa ŵyn sy’n perfformio orau o dan wahanol systemau rheoli.
Gellir hwyluso’r broses o wirio pwysau targed pob oen hefyd, gan olygu y gellir dewis ŵyn sy’n gweddu i fanyleb proseswyr. Gall perfformiad ŵyn gael ei olrhain i famogiaid hefyd, i gynorthwyo â rhaglenni bridio ac amlygu’r stoc fwyaf cynhyrchiol.
Yn ogystal, gall EID fod yn fuddiol iawn wrth reoli cynlluniau iechyd y praidd, gan ddarparu hanes iechyd sydd ar gael yn rhwydd ar gyfer defaid unigol. Gall hyn gynnwys:
- Cofnodi tasgau arferol fel drensio a brechu yn ôl defaid unigol neu grwpiau wrth iddynt gael eu cynnal.
- Cofnodi a rheoli cyfnodau diddyfnu ar gyfer unrhyw feddyginiaeth a roddir, a chofnodi triniaeth ar gyfer defaid unigol sy’n darparu hanes iechyd sydd ar gael yn rhwydd.
- Defnyddio cofnodion triniaeth a rhesymau dros driniaeth i nodi problemau a dechrau eu datrys yn gynnar, ac amlygu unrhyw faterion iechyd parhaus neu ailadroddus o fewn defaid unigol.
Mae EID yn cynnig llawer o gyfleoedd. Yr hyn sy’n allweddol er mwyn ei ddefnyddio’n effeithiol yw peidio â’i wneud yn rhy gymhleth a defnyddio’r dechnoleg i’r lefel lle y gallwch weld budd ac elw, y tu hwnt i’r hyn sydd ei angen at ddibenion adnabod syml.